Leviticus 1

Trefn aberthau

1Dyma'r Arglwydd yn galw Moses ac yn siarad gydag e o'r Tabernacl. 2“Dywed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn dod ag offrwm i'r Arglwydd dylai fod o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr.
1:2 gyr o wartheg … ddefaid a geifr h.y. anifail fferm oedd yn rhan o fywoliaeth y person, nid unrhyw anifail oedd wedi ei hela.

3“Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr Arglwydd. 4Wedyn rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail sydd i'w losgi. Bydd yr anifail yn cael ei dderbyn gan Dduw fel ffordd o wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw. 5Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr Arglwydd. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. 6Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn blingo'r anifail a'i dorri yn ddarnau. 7Bydd yr offeiriaid yn rhoi tân ar yr allor ac yn gosod coed ar y tân. 8Wedyn byddan nhw'n gosod y pen a'r braster a'r darnau eraill mewn trefn ar y tân. 9Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r Arglwydd.

10“Os mai anifail o'r praidd ydy'r offrwm sydd i'w losgi, dylai fod yn hwrdd neu fwch gafr – anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. 11Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr Arglwydd. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. 12Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r brasder, mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor. 13Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r Arglwydd.

14“Os mai aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r Arglwydd, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen
1:14 durtur neu golomen Dyma'r unig adar oedd yr Hebreaid wedi eu dofi (gw. 2 Brenhinoedd 6:25).
ifanc.
15Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor. 16Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, a'u taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor. 17Ac wedyn gafael yn adenydd yr aderyn, a dechrau ei rwygo ond peidio ei dorri'n ddau. Wedyn llosgi'r cwbl ohono yn y tân ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r Arglwydd.

Copyright information for CYM